Mae anghyfartaledd o ran hil yn dal i gael ei weld yn y cyfryngau ac yn ehangach mewn cymdeithas, yn ôl un o sêr y gyfres deledu Gogglebocs.
Un enghraifft o hynny yw penawdau’r newyddion, lle mae angen gofal os am sicrhau cyfiawnder hiliol, meddai Molara Awen – wyneb cyfarwydd o’r gyfres ar S4C.
A hithau’n wythnos cyfiawnder hiliol, dywedodd bod cael digwyddiad o’r fath yn hwb i ymgyrch y llywodraeth i gael Cymru yn wlad wrth-hiliol erbyn 2030.
“Mae yna pethau pwysig yn digwydd yn y cyfeiriad iawn ond mae’r ddeialog yn gallu bod yn polarised o hyd,” meddai Ms Awen, sy’n cynnal gweithdai Hanes Pobl Dduon Cymru 365 yn Sir Benfro.
“Gyda digwyddiadau fel [llofruddiaethau] Southport, er enghraifft, ‘dan ni’n siarad am liw croen troseddwr ond pan mae dyn gwyn yn troseddu, ni ddim yn cyfeirio at liw ei groen.
“Dwi ddim yn deall pam bod hyn yn parhau i ddigwydd – gan fod yna droseddwyr gyda chroen gwyn, brown… pob lliw. Dwi ddim yn deall pam mae lliw croen yn bwysig pan ‘dan ni’n sôn am bethau ofnadwy.”