Ambiwlansys wedi treulio mwy o amser nag erioed y tu allan i ysbytai

Ambiwlansys wedi treulio mwy o amser nag erioed y tu allan i ysbytai

Mae’r ffigyrau newydd yn dangos ym mis Rhagfyr bod cleifion wedi gorfod disgwyl dros ddwy awr a 12.5 munud, ar gyfartaledd.

Roedd dros deirawr a thri chwarter ym Mae Abertawe.

Ar y cyfan yn 2024 ym Mae Abertawe, lle mae’r brif adran achosion brys yn Ysbyty Treforys, roedd amseroedd aros dros deirawr a naw munud ar gyfartaledd.

Yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, roedd hi’n cymryd llai na 45 munud i drosglwyddo cleifion i’r Ysbyty Athrofaol.

Yn ôl Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau’r Gwasanaeth Ambiwlans, sgil effaith yr oedi wrth drosglwyddo cleifion yw lleihau yn sylweddol faint o ambiwlansys sydd ar gael i ymateb i gleifion yn y gymuned.

“Rydym yn difaru’r effaith mae’r oedi’n ei gael ar gleifion a’u teuluoedd,” meddai.

“Nid dyma’r safon o wasanaeth yr ydym eisiau ei ddarparu, ac rydym yn cydnabod nad dyma mae’r cyhoedd yn ei ddisgwyl.

“Dyw’r amser mae’n cymryd i drosglwyddo claf o’r ambiwlans i adran achosion brys ddim o fewn ein rheolaeth ni yn uniongyrchol, felly rydym yn meddwl yn wahanol iawn am sut i ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top