Aelodau’r Senedd yn rhoi teyrnged i’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Aelodau’r Senedd yn rhoi teyrnged i’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Yn ôl cyn-arweinydd Plaid Cymru Adam Price, roedd Dafydd Elis-Thomas “yn sicr yn rhywun a ymhyfrydai yn ei wrthddywediadau ei hun”.

“Y radical a oedd wrth ei fodd â thraddodiad; y cenedlaetholwr Cymreig yn sgwrsio’n gyfforddus â theulu brenhinol Lloegr.

“Ond, er gwaetha’r gwrthddywediadau, roedd y cysondeb nid yn y dull, ond y nod, y nod a oedd bob amser yr un peth, sef adeiladu’r genedl wleidyddol Gymreig.”

Dywedodd Sam Kurtz o’r Ceidwadwyr bod Dafydd Elis-Thomas yn “gawr o wleidyddiaeth Cymru, cymeriad, a chyfaill i lawer”.

Ychwanegodd AS Dwyfor Meirionnydd Mabon ap Gwynfor bod cael olynu Dafydd Elis-Thomas fel cynrychiolydd yr etholaeth yn y Senedd yn “destun balchder”.

“Er yn wleidydd anghonfensiynol ac enigmataidd, roedd yna edefyn clir yn rhedeg trwy ei fywyd gwleidyddol, sef ei angerdd dros Gymru, ei phobl a’i diwylliant cyfoethog, ac roedd y bobl yn hoff iawn ohono fo hefyd,” meddai.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top