Wrth i fardd tref Aberystwyth baratoi at drosglwyddo’r awenau, mae llinellau o farddoniaeth wedi eu cerfio i ddathlu’r dref.
Mae bod yn fardd y dref wedi bod yn fraint enfawr, meddai Eurig Salisbury wrth i’w gyfnod dwy flynedd ddod i ben.
Yn benllanw ar y gwaith mae Eurig Salisbury a bardd newydd y dref, y Prifardd Hywel Griffiths, wedi llunio cwpledi i’r prom sydd bellach wedi’u cerfio mewn llechi ger traeth y de.
Mae’r cyfan yn rhan o waith y cyngor sir i drawsnewid promenâd Aberystwyth i fod yn “lle mwy hygyrch, deniadol a chynaliadwy ar gyfer trigolion lleol ac ymwelwyr”.
Mae’r prosiect a’r gwaith o ailddatblygu yr Hen Goleg wedi derbyn £10.8m gan Lywodraeth y DU.