Clywodd y cwest fod gyrrwr y bws wedi’i gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys yn Abertawe “mewn cyflwr difrifol” wedi’r digwyddiad, a bod nifer o’r 41 o deithwyr ar y bws – oedd ar wyliau o Cumbria – wedi dioddef anafiadau.
Yn wreiddiol o Dunstable, roedd Mr Chapman wedi bod yn byw yn Sir Benfro ers rhai blynyddoedd gyda’i ddyweddi Catrin Jones.
Clywodd y cwest gan Ms Jones, a ddisgrifiodd eu perthynas fel “stori dylwyth teg”.
Ond yn yr wythnosau cyn y digwyddiad, roedd y cwpl wedi “anghytuno sawl tro”, ac roedden nhw wedi trefnu sesiwn gwnsela i siarad am eu problemau ar 6 Medi – y diwrnod ar ôl y gwrthdrawiad.
Dywedodd Catrin Jones, sy’n cael ei hadnabod fel Katie, wrth y cwest yn Neuadd y Sir yn Hwlffordd bod y ffordd roedd y cwpl yn “ddelio â dadleuon yn wahanol iawn”, a’u bod eisiau i’r cwnselydd eu helpu i “gyfathrebu’n well”.