Ar ddiwrnod ei farwolaeth dywedodd Llywydd presennol y Senedd, Elin Jones taw ef oedd “craig sylfaen ein Senedd”.
“Dafydd oedd ceidwad y cyfansoddiad Cymreig, ond un oedd bob amser yn barod i feddwl y tu allan i’r bocs,” meddai.
Roedd yr Arglwydd Elis-Thomas yn un o dri gwleidydd o Gymru sydd wedi bod yn aelod o Dŷ’r Cyffredin, Tŷ’r Arglwyddi a’r Senedd.
Roedd yn Aelod Seneddol i Blaid Cymru rhwng 1974 a 1992, ac yn arweinydd ar y blaid rhwng 1984 a 1991.
Yn ddiweddarach roedd yn aelod o grŵp Plaid Cymru ym Mae Caerdydd cyn gadael y blaid yn 2016 i eistedd fel aelod annibynnol.
Y flwyddyn ganlynol ymunodd â llywodraeth Carwyn Jones fel gweinidog dros ddiwylliant, chwaraeon a thwristiaeth.
Ildiodd yr Arglwydd Elis-Thomas ei sedd yn y Senedd yn 2021.