“Mae atal dweud yn waeth pan dyw’r person dwi’n siarad gyda ddim yn gwybod bod atal dweud gyda fi.”
Mae Lloyd Cottrell yn un o tua 450,000 o bobl yn y DU sydd â nam lleferydd.
Mae’r cerddor o Gasnewydd wedi rhoi ei gefnogaeth i ymgyrch sy’n galw ar Lywodraeth y DU i greu symbol pwrpasol ar gyfer pobl ag atal dweud.
Mae’r dylanwadwr, Jessie Yendle – sydd ag atal dweud ei hun a 3.5m o ddilynwyr ar TikTok – yn galw am gyflwyno symbol a fyddai’n helpu pobl eraill â nam lleferydd.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn canolbwyntio ar hyrwyddo hawliau pob person anabl.