Mae delweddau wedi eu cyhoeddi o edrychiad posib prif orsaf drenau Caerdydd fel rhan o gynllun gwerth hyd at £140m.
Bwriad Trafnidiaeth Cymru, sy’n arwain y cynllun, yw moderneiddio Caerdydd Canolog a helpu gyda chynnydd mewn nifer teithwyr yn yr hirdymor.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys creu cyntedd mwy o faint er mwyn creu mwy o le i deithwyr, gwella llif teithwyr a mynediad drwy gatiau ychwanegol.
Bydd yna hefyd gyfleusterau aros, siopau a lle i barcio beiciau.
Mae’n fwriad hefyd i ddathlu hanes a threftadaeth yr adeilad.
Mae gwireddu’r cynllun yn dibynnu ar gymeradwyo’r cynlluniau a’r achos busnes llawn.