Mae cyn-esgob wnaeth gam-drin plentyn yn rhywiol wedi ei garcharu.
Cafodd Anthony Pierce, oedd yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu rhwng 1999 a 2008, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher.
Clywodd y llys bod y troseddau’n dyddio o gyfnod rhwng 1985 a 1990, pan oedd yn offeiriad plwyf yn West Cross, Abertawe.
Daeth ei droseddau i’r amlwg yn 2023, pan basiodd yr Eglwys yng Nghymru wybodaeth am honiadau at yr heddlu.
Roedd Pierce, 84, wedi cyfaddef pum cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen dan 16 oed.
Cafodd ddedfryd o bedair blynedd ac un mis dan glo.
Bydd yn treulio hanner y ddedfryd yn y carchar a hanner ar drwydded.
Dywedodd y Barnwr Catherine Richards bod Pierce wedi “manteisio ar ei oed a’i ymddiriedaeth ynddoch”.