Pryder am enw da addysg uwch yn sgil toriadau prifysgolion

Pryder am enw da addysg uwch yn sgil toriadau prifysgolion

Mae pennaeth y corff sy’n gyfrifol am ariannu prifysgolion yn dweud ei fod yn poeni y gallai toriadau i’r sector amharu ar enw da addysg uwch Cymru.

Yn ôl Simon Pirotte, prif weithredwr Medr – a gafodd ei lansio’r llynedd i oruchwylio addysg ôl-16 – mae yna lawer i fod yn falch ohono ond mae’r ffocws presennol ar “yr heriau a’r problemau”.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Prifysgol Caerdydd gynlluniau i dorri 400 o swyddi academaidd, ac mae sefydliadau eraill hefyd wedi dweud eu bod yn gorfod chwilio am ddiswyddiadau er mwyn gwneud arbedion.

Dywedodd Mr Pirotte nad oedd yn poeni y byddai prifysgol yn mynd i’r wal “yn y dyfodol agos” er gwaethaf amgylchiadau “heriol dros ben”.

Roedd Mr Pirotte yn siarad cyn lansio cynllun strategol cyntaf Medr, wyth mis ar ôl ei sefydlu ym mis Awst 2024.

Mae gan y corff gyllideb o £960m ac mae’n gyfrifol am ariannu a rheoleiddio prifysgolion, addysg bellach a hyfforddiant, yn ogystal â chweched dosbarth ysgolion.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top