Cwestiynu data ariannol safonau’r Gymraeg wedi amcan £12m

Cwestiynu data ariannol safonau’r Gymraeg wedi amcan £12m

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r 10 corff gymryd rhan mewn “ymarfer casglu data yn ymwneud ag asesiad effaith rheoleiddiol”.

Dywedodd y llywodraeth bod un corff wedi darparu amcangyfrif o gostau sy’n “ymddangos yn annisgwyl o uchel”, sef £7m o ran systemau a £5.7m am gostau staff i sicrhau cydymffurfiaeth â safonau cyflenwi gwasanaethau.

Roedd yr amcangyfrif hwn yn “sylweddol uwch” na’r costau a nodwyd gan y cyrff eraill, ac yn cynnwys costau sefydlu a chynnal systemau, darparu gwefannau, gohebiaeth a chanolfan gyswllt.

Roedd amcan gost ar gyfer staff yn cynnwys recriwtio, rheoli corfforaethol a chostau staffio blynyddol.

Er ei “bryderon” ynghylch yr wybodaeth, mae Mark Drakeford yn mynnu “nid beirniadaeth ar ymdrechion y cyrff i amcangyfrif costau yw hyn, na’u rhesymeg wrth wneud hynny, ond yn hytrach cydnabyddiaeth o’r anawsterau o ran amcangyfrif costau’n gywir o dan system lle na fyddant yn gwybod pa ddyletswyddau y disgwylir iddynt gydymffurfio â nhw, ac o dan ba amgylchiadau, hyd nes y cânt hysbysiad cydymffurfio gan y comisiynydd”.

Wrth osod dyletswyddau ar gyrff o dan reoliadau safonau blaenorol, nid yw swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi gosod pob un o’r safonau ar unrhyw gorff unigol.

Os caiff y rheoliadau hyn sêl bendith y Senedd, caiff gwybodaeth bellach ei chasglu gan gyrff pan fydd y comisiynydd, Efa Gruffudd Jones yn ymgynghori ar hysbysiadau cydymffurfio drafft.

Mae swyddfa’r comisiynydd wedi gosod safonau’r Gymraeg ar 131 o gyrff cyhoeddus hyd yn hyn.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top