Mae teulu dynes 81 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad mewn maes parcio yn Ninbych wedi rhoi teyrnged iddi hi.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad y tu allan i Feddygfa Brynffynon ar 18 Chwefror.
Bu farw Celia Adams o ardal Henllan mewn ysbyty yn Stoke ar 28 Chwefror.
Dywedodd ei theulu ei bod hi “nid yn unig yn wraig, mam, chwaer, nain a hen-nain, ond hi oedd y glud oedd yn dal ein teulu at ei gilydd”.