Gwagio eiddo ar ôl adroddiadau o ‘sylwedd peryglus’

Gwagio eiddo ar ôl adroddiadau o ‘sylwedd peryglus’

Bu’n rhaid i rai trigolion adael eu cartrefi yng nghanol Casnewydd ddydd Gwener yn dilyn adroddiadau bod “sylwedd allai fod yn beryglus” wedi cael ei ddarganfod.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i eiddo ar Clarence Place yng Nghasnewydd r yn dilyn yr adroddiadau.

Bu ffyrdd ar gau yn yr ardal “fel mesur rhagofalus er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd”.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Stephen Drayton brynhawn Gwener bod y sylwedd “wedi’i gyfyngu yn ddiogel ac nid oes unrhyw risg barhaus i aelodau’r gymuned”.

“Rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid i ddod â hyn i ben mor gyflym â phosib a hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am eu hamynedd a’u cydweithrediad ar hyn o bryd.”

Ychwanegodd y llu bod yr heddlu wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i archwilio a gwaredu’r sylwedd.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top