Cafodd y gwobrau eleni eu dyfarnu gan banel o arbenigwyr, dan arweiniad y cadeirydd Y Farwnes Tanni Grey-Thompson.
Y beirniaid eraill oedd cyn-chwaraewr pêl-droed a phêl-rwyd Cymru, Nia Jones, Owen Lewis o Chwaraeon Cymru, Deon Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Prifysgol Met Caerdydd, yr Athro Katie Thirlaway, a chyfarwyddwr gweithredol rygbi Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker.
Dywedodd y Farwnes Grey-Thompson bod 2024 “wedi bod yn flwyddyn ragorol i chwaraeon Cymru” a bod “lefel aruthrol y talent ac ymroddiad” gymaint o athletwyr wedi gwneud tasg y beirniaid yn un “anodd eithriadol”.
Roedd yr enwau eraill a gafodd eu hystyried am y wobr yn cynnwys:
Y pêl-droediwr Jess Fishlock;
Y taflwr maen Paralympaidd Sabrina Fortune;
Y bocsiwr Lauren Price;
Y canŵydd Paralympaidd Laura Sugar;
Y seiclwr Elinor Barker;
Y nofiwr Matt Richards;
Y seiclwr Paralympaidd James Ball;
Yr athletwr taekwondo Paralympaidd Matt Bush;
Y rhwyfwr Paralympaidd Ben Pritchard;
a’r saethwr Paralympaidd Jodie Grinham.
Wrth wobrwyo Emma Finucane, dywedodd y Farwnes Grey-Thompson eu bod yn cydnabod “perfformiad rhagorol ym Mharis” a’i “chysondeb ar draws pob cystadleuaeth eleni”.