Mae cyfanswm o 55 o athletwyr wedi ennill y wobr ers ei sefydlu yn 1954, ond dim ond 10 sydd wedi ei hennill fwy nag unwaith.
Mae Colin Jackson, Joe Calzaghe, Tanni Grey-Thompson, Ian Woosnam a Howard Winstone i gyd wedi cael eu coroni yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru ar dri achlysur.
Geraint Thomas, Jade Jones, Ryan Giggs, Lynn Davies a nawr Finucane yw’r lleill i hawlio’r teitl sawl gwaith – gyda’r pump yn gwneud hynny ddwywaith yn eu gyrfaoedd.
Cyn-asgellwr Manchester United a Chymru, Giggs, sy’n dal y record am y bwlch hiraf rhwng hawlio’r teitl. Fe gafodd ei anrhydeddu â’r teitl yn 1996 ac yna eto yn 2009.
Cyn-bencampwr bocsio’r byd, Joe Calzaghe a’r golffiwr Ian Woosnam a gafodd ei dderbyn i Oriel Anfarwolion y byd golff, oedd yr unig enillwyr i gadw’r teitl cyn eleni.
Gwnaeth Calzaghe hynny yn 2007 ar ôl uno’r adran pwysau canol uwch trwy guro Mikkel Kessler o flaen mwy na 50,000 o gefnogwyr yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd.
Ac yntau eisoes wedi ennill y wobr yn 1987, aeth Woosnam gefn-wrth-gefn yn 1990 a 1991 wrth iddo ennill teitl y Meistri a dod yn rhif un y byd – y teitl olaf a ddaliodd am 50 wythnos.
Ond mae wedi bod yn flwyddyn ragorol i Emma Finucane o Gaerfyrddin. Hi yw’r fenyw gyntaf i gadw’r wobr, a dim ond y trydydd athletwr i wneud hynny. Ymysg ei llwyddiannau dros y flwyddyn mae ennill y ras wib unigol ym Mhencampwriaeth Trac y Byd.
Roedd hi hefyd yn rhan o’r triawd a enillodd fedal aur yn y ras wib i dimau a dwy fedal efydd yn y Gemau Olympaidd ym Mharis ym mis Awst.