O ran tîm y dynion, roedd hi’n gyfnod o newid gyda Rob Page yn gadael fel prif hyfforddwr ym mis Mehefin a Craig Bellamy yn ei olynu ym mis Gorffennaf.
Roedd ymadawiad Page yn anochel wedi’r methiant i gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2024 a’r canlyniadau siomedig yn y gemau cyfeillgar yn erbyn Gibraltar a Slofacia.
Mae penodiad Bellamy wedi tanio dychymyg y chwaraewyr a’r cefnogwyr, ond go brin fod neb yn disgwyl i Bellamy gael y fath ddylanwad mewn cyn lleied o amser.
Roedd awgrym o’r hyn oedd i ddod yn y gêm agoriadol yn erbyn Twrci yng Nghynghrair Y Cenhedloedd yng Nghaerdydd, er iddi orffen yn ddi-sgôr, roedd safon y pêl-droed yn uchel, gyda Chymru yn chwarae ar y droed flaen a’r chwaraewyr yn cael y rhyddid i fynegi eu hunain.
Roedd ‘na ddatblygiad i’w weld ym mhob gêm ac wedi’r fuddugoliaeth o 4-1 yn erbyn Gwlad yr Iâ, a Thwrci yn colli yn erbyn Montenegro, roedd Cymru wedi sicrhau dyrchafiad i Adran A.
Rowndiau rhagbrofol Cwpan Y Byd fydd canolbwynt y sylw yn 2025, ac yn wahanol i grŵp y merched, mae grŵp y dynion – sy’n cynnwys Gwlad Belg, Lichtenstein, Kazakhstan a Gogledd Macedonia – yn un gymharol garedig, ac yn rhoi cyfle gwirionedd o gyrraedd Cwpan Y Byd am yr eildro yn olynol.